Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 4 Hydref 2021
Amser:
13.28 -
17.44
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12445
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS |
Tystion: |
Steffan Evans, Sefydliad Bevan Cerys Furlong, Chwarae Teg Lisa Hayward, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Sara Burch, Undeb Credyd Gateway Leanne Herberg, Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro Lee Tiratira, Tim Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig & Ieuenctid Cymru Claire Savage, Undebau Credyd Cymru Karen Davies, Purple Shoots Rob Simkins, Shelter Cymru Daniel Arrowsmith, Cymdeithas Undebau Credyd Prydain |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Claire Fiddes (Ail Glerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.
1.2 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Sarah Murphy AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.3 Ni chafwyd ymddiheuriadau gan yr Aelodau. Datganodd Jenny Rathbone AS a Sarah Murphy AS fuddiant ar gyfer eitem 4 gan fod y ddwy yn aelodau o undebau credyd.
2 Dyled a'r pandemig - gwasanaethau cyhoeddus
2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Will Henson, Cartrefi Cymunedol Cymru.
2.2 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â dyled a’r pandemig. Yn ystod y sesiwn, cytunodd Shelter Cymru:
Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
3 Dyled a'r pandemig - effaith ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig
3.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â dyled a’r pandemig.Yn ystod y sesiwn, cytunodd Chwarae Teg:
4 Dyled a'r pandemig - credyd fforddiadwy
4.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â dyled a’r pandemig.
5 Dyled a'r pandemig - melinau trafod
5.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â dyled a’r pandemig.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Gohebiaeth gan y Gender Network ynghylch cydraddoldeb rhywiol - 15 Medi 2021
6.1a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
6.2 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch diogelu gwybodaeth ddirgel - 21 Medi 2021
6.2a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
6.3 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd - 22 Medi.
6.3a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
6.4 Ymateb i ymgynghoriad Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chanolfan Llywodraethiant Cymru
6.4a Nododd yr Aelodau yr ymateb i'r ymgynghoriad.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8 Ystyried tystiolaeth - dyled a'r pandemig
8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3, 4 a 5. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Cartrefi Cymunedol Cymru a CLlLC i gael rhagor o wybodaeth.
9 Ystyriaeth o Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Lluoedd Arfog
9.1 Trafododd ac ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Yn amodol ar fân newidiadau, bydd yn cytuno ar yr adroddiad yn electronig.